Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
10 Mai 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12839
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Cododd Andrew RT Davies bwynt o drefn mewn cysylltiad â chwestiynau Arweinydd Plaid Cymru i’r Prif Weinidog. Roedd o’r farn bod y cwestiynau a ofynnwyd yn ymwneud â maes polisi o fewn y Cytundeb Cydweithio, yn groes i ganllawiau ar y mater hwn a gyhoeddwyd gan y Llywydd. Cytunodd y Llywydd ac ailadroddodd ei disgwyliad na fydd cwestiynau’n cael eu defnyddio yn y dyfodol i hyrwyddo agweddau ar y Cytundeb.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.27
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19
Dechreuodd yr eitem am 14.39
4 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Safon Ansawdd Tai Cymru 2
Gan nad oedd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn bresennol ar gyfer dechrau’r datganiad, cynigiodd y Llywydd symud i eitem 5 cyn cymryd eitem 4. Nid oedd unrhyw wrthwynebiad.
Dechreuodd yr eitem am 15.21
5 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Fframwaith Canlyniadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 15.01
6 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Etholiadau Llywodraeth Leol
Dechreuodd yr eitem am 15.58
7 Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhannu Swydd a Chynorthwywyr Gweithrediaeth) 2022
Dechreuodd yr eitem am 16.28
NDM7995 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhannu Swydd a Chynorthwywyr Gweithrediaeth) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mawrth 2022.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Cyfnod pleidleisio
Nid oedd cyfnod pleidleisio.
Daeth y cyfarfod i ben am 16.30
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 11 Mai 2022